Beth ydym ni
Rydym yn gyfundrefn Cymru-gyfan sydd yn helpu sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau gofal-plant all-ysgol. Rydym yn helpu clybiau, neu ddarpar-glybiau, i geisio am ariannu a chymorth ariannol, ac rydym yn hyfforddi ac yn cefnogi staff clybiau yn ystod cyfnod sefydlu’r clwb ac yn ei rediad o ddydd i ddydd.
Beth yw Clwb All-Ysgol?
Mae Clwb All-Ysgol yn rhedeg naill ochr i’r diwrnod ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae’r clybiau’n galluogi rhieni neu ofalwyr i ddychwelyd i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant drwy ddarparu gofal i’r plentyn tan ddiwedd y diwrnod gwaith.
Mae gan nifer o ysgolion glwb all-ysgol, tra bod clybiau hefyd yn cael eu rhedeg o neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol.
Clwb Ôl-Ysgol
Mae Clwb Ôl-Ysgol yn dechrau pan fydd y diwrnod ysgol yn gorffen, gan amlaf tua 3.30 y.p. Os nad yw’r clwb yn cael ei gynnal yn adeilad yr ysgol ei hun, mae aelod o staff y clwb yn cwrdd â’r plant, a’u tywys o’r ysgol i’r clwb. Yn y clwb bydd y plant yn cael eu cofrestru, a chynigir bwyd a diod iddynt. Gallant wedyn gymryd rhan mewn rhaglen o gemau a gweithgareddau amrywiol i’r plant tan i’r rhiant ddod i’w casglu. Mae’r clybiau gan amlaf ar agor tan 6y.h., gan roi digon o amser i rieni orffen eu gwaith a chasglu eu plant.
Clwb Cyn-Ysgol
Mae Clwb Cyn-Ysgol, neu Glwb Brecwast, yn rhedeg cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau. Mae rhieni’n dod â’u plant i’r clwb cyn iddynt fynd ymlaen i’r gwaith. Yno cynigir byrbryd i’r plant, a chant eu gwarchod tan i’r diwrnod ysgol ddechrau. Eto, os nad yw’r clwb yn digwydd ar safle’r ysgol, bydd staff y clwb yn sicrhau bod y plant yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac mewn da bryd.
Clybiau Gwyliau
Mae Clybiau Gwyliau’n rhedeg yn ystod y dydd ar adegau gwyliau’r ysgol er mwyn sicrhau y gwarchodir y plant tra bod eu rhieni’n gweithio. Difyrrir y plant gan weithgareddau hwyl, gemau a gweithgareddau. Cynigir bwyd iddynt hefyd yn ystod y diwrnod.
Faint fydd yn ei gostio?
Clybiau Gofal-Plant All-Ysgol yw’r ateb perffaith os ydych am ailddechrau gweithio, hyfforddi neu ddychwelyd i fyd addysg. Er bod y pris yn cael ei gadw i leiafswm, mae’n rhaid codi ar ddefnyddwyr er mwyn talu costau rhedeg y clwb. Mae’r costau’n amrywio o glwb i glwb, ac fe’ch cynghorir i gysylltu â’r clwb neu’ch swyddfa Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ranbarthol am ragor o wybodaeth.
Fe allech fod yn gymwys i hawlio Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith, a fydd yn rhoi ichi ostyngiad treth er mwyn eich helpu i dalu costau gofal-plant. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, neu gallech gysylltu â Chyllid y Wlad a fydd yn gallu’ch cynghorir, a rhoi ichi’r ffurflen y bydd ei hangen arnoch i hawlio’ch credyd treth. Gallwch gysylltu â Chyllid y Wlad trwy ffonio 0845 300 1036, trwy fynd i’r wefan www.inlandrevenue.gov.uk, neu drwy’r post: The Inland Revenue, PO Box 1222, Liverpool L75 2ED.
Sut gallaf sefydlu clwb yn fy nghymuned i?
Os ydych yn ystyried sefydlu Clwb All-Ysgol yn eich cymuned chi, dylech yn gyntaf gysylltu â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal-Plant. Mae gan bron bob sir yng Nghymru Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, ac mae gan ambell i sir Weithiwr Cefnogi yn ogystal. Maent yno i’ch helpu a’ch cefnogi yn ystod cyfnod sefydlu eich clwb, ac yn ei redeg o ddydd i ddydd. Cewch help ganddynt i ddarganfod a oes gofyn am Glwb All-Ysgol yn eich ardal chi, sut i ddod o hyd i adeilad i letya’r clwb, ble i ddod o hyd i gymorth ariannol, sut i ateb y gofynion cyfreithiol a.y.b. I wybod pwy yw eich Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, neu’r swyddfa genedlaethol.


