Beth Yr Ydym Yn Ei Wneud.
Ni yw'r Gyfundrefn Genedlaethol sydd yn sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant all ysgol ledled Cymru.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau, o fewn cymunedau, ar gyfer cymunedau. Rydym yn galluogi rhieni neu ofalwyr i ddychwelyd i waith, addysg neu hyfforddiant trwy ddarparu clybiau cyn ysgol, ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau ynghyd â gofal amlapiedig ar gyfer plant rhwng 3 a 14 mlwydd oed.
Rydym yn helpu unigolion neu grwpiau i sefydlu clybiau yn eu cymuned gan ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant, Rydym yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant yn gyson er mwyn sicrhau bod gweithwyr chwarae wedi eu hyfforddi at y safon genedlaethol.


