Os oes gennych rywbeth i’w ddweud rydym am glywed gennych.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gwella ei wasanaeth yn gyson ac mae eich adborth yn bwysig i ni. Os oes gennych syniad, canmoliaeth neu gwyn, hoffem pe baech yn dweud wrthym. Bydd hyn yn ein helpu i wella’r gwasanaethau a gynigiwn.
Mae pob rhyddid ichi rannu eich safbwyntiau drwy lenwi’r ffurflen ar-lein yn ogystal [ar y dudalen Adborth] Os yw’n well gennych gellwch anfon e-bost i contact@ clybiauplantcymru.org, neu ysgrifennwch i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, (gwelwch Cysylltwch â ni am fanylion cyfeiriad). Trosglwyddir eich sylwadau i’r Cyfarwyddwr a hysbysir yr aelodau perthnasol o’r staff.
CwynionMae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd da i bawb ar bob adeg, ond cydnabyddwn nad ydym bob tro yn lllwyddo. Mae angen i ni wybod pryd yr aiff pethau o chwith. Lle ceir amgylchiadau pan deimlwch yr angen i gwyno wrthym, rydym yn awyddus i wrando ar eich barn. Dyma sut y gallwn ddysgu o unrhyw gamgymeriadau, eu cywiro, arbed gwneud camgymeriadau tebyg yn y dyfodol a chanfod sut i wella ar ein gwasanaeth lle bynnag bo’n bosibl.
Os nad ydych yn fodlon â safon ein gwasaneth, y gweithredu neu ddiffyg gweithredu ar ran staff Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, yna dylech ddodi eich cwyn ar bapur a’i anfon at:
Y Cyfarwyddwr
PREIFAT & CHYFRINACHOL
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Tŷ’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
E-bost: wendyh@clybiauplantcymru.org
Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, copïau o unrhyw ohebiaeth, enwau’r personau perthnasol, a manylion a dyddiadau’r gwyn ei hun.
Byddwch yn derbyn ymateb cychwynnol, ynghyd â chopi o’n weithdrefn gwynion, a fydd yn rhoi amlinelliad o sut yr ymdrinir â’r gwyn.


