Home Page About Us FAQs Training Newsroom Downloads Contact Us Links Projects Vacancies Find Clubs Events
Cymraeg
logio mewn
Downloads
North Wales Regional Office West Wales Regional Office South East Wales Regional Office


Archif Print

Atal rhag cofrestru â'r cynllun Fetio a Gwahardd. 21/06/2010

Atal rhag cofrestru â'r cynllun Fetio a Gwahardd.

 

Y mae’n bosibl eich bod bellach, parthed Cynllun Fetio a Gwahardd, fod y cam o gofrestru â’r ADA bellach wedi ei atal er mwyn caniatáu i’r Llywodraeth ailfodelu’r cynllun, yn ôl i lefelau cymesurol, synnwyr cyffredin.  O ganlyniad ataliwyd y cam o gofrestru â’r ADA rhag mynd yn ei flaen, ac ni lansir hwn bellach ar Orffennaf 26 2010.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, fod diogelwch plant ac oedolion bregus  ‘o’r pwysigrwydd pennaf i’r llywodraeth newydd’, ond for ymagwedd resymol yn hanfodol.  Aeth yn ei blaen i ddweud bod ‘aelodau’r llywodraeth wedi gwrando ar y feirniadaeth ac y byddant  yn ymateb trwy gyflwyno cynllun sydd wedi ei ailwampio’n sylfaenol.  Rhaid diogelu grwpiau bregus yn briodol, mewn ffordd sy’n gymesurol ac yn synhwyrol.  Bydd ail-lunio’r Cynllun Fetio a Gwahardd yn sicrhau y digwydd hyn’.

Ymhlith trefniadau presennol y cynllun a fydd yn parhau, y mae’r canlynol:-

·         Er Ionawr 2009, y mae’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ADA) wedi bod yn gwneud penderfyniadau annibynnol ar wahardd.  Bydd yn parhau i gynnal dwy restr a ddiweddarir yn gyson, un yn nodi’r bobl a waherddir rhag gweithio gyda phlant, a’r llall, y bobl a waherddir rhag gweithio gydag oedolion bregus.

·         Bydd y gofynion presennol parthed gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn parhau yn eu lle, a gall y bobl hynny sydd â hawl i dderbyn gwiriadau o’r fath barhau i wneud cais amdanynt; a

·         phery’n ymrwymiad cyfreithiol ar gyflogwyr i hysbysu’r ADA os ydynt wedi symud neu ddiddymu enw unigolyn oherwydd eu bod wedi niweidio, neu oherwydd bod risg o niwed i aelod o grŵp bregus.

Mae rhychwant y broses o ailfodelu - i’w gydlynu gan y Swyddfa Gartref mewn partneriaeth â’r Adran Iechyd a’r Adran Addysg - bron yn ei ffurf derfynol. Mae’r ddau ymgynghoriad presennol: Yr Angen Parhaus am Gategori Gweithgaredd dan Reolaeth yn y Cynllun Fetio a Gwahardd YNGHYD A gofynion Statudol a chyngor, ar gyfer datgeliadau’r SCT i bwrpasau diogelu, ar weithwyr sydd eisoes wedi eu cofrestru â'r Awdurdod Diogelu Annibynnol  yn parhau’n weithredol.  Y dyddiad cau fydd Gorffennaf  9fed. http://www.dcsf.gov.uk/consultations/

Nid yw eto’n glir sut y bydd ailfodelu’r Cynllun Fetio a Gwahardd ar ran y Llywodraeth yn effeithio ar ddyfodol cofrestru â’r ADA.  Unwaith y daw mwy o wybodaeth ar hyn i law, fe’i trosglwyddwn i chi.  Mae’r datganiad i’r wasg i’w weld ar http://www.homeoffice.gov.uk/media-centre/press-releases/Vetting-barring-scheme

Llwytho i Lawr (66.2KBKb) Math: PDF
Free Membership
Hawlfraint © Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs | Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau