Q: Sut awn ni o’i chwmpas hi i sicrhau bod pob aelod o’n staff wedi eu gwirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, a bod y gwiriad hwnnw’n gyfamserol?
A:
Mae gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn ddilys am gyfnod o 3 blynedd os nad yw’r aelod o’r staff yn symud o’i fan cyflogaeth. Dylai pob aelod newydd o’r staff dderbyn gwiriad newydd gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol, lle bynnag bo’n bosibl, a lle nad yw hyn yn bosibl yn syth o’r dechrau, ni ddylent fod gyda phlant heb gael eu harolygu hyd nes y bydd y gwiriad wedi ei gwblhau.
Cyfrifoldeb y Person Cofrestredig yw sicrhau bod pob aelod o’r staff wedi ei wirio’n gywir ac yn gyfamserol. Lle bo’r lleoliad yn cael ei redeg ar sail nid-am-elw, byddai’n rhaid i’r Person Cofrestredig gysylltu â’u cyfundrefn fantell (gw. Atodiad 3) i dderbyn rhif cofrestru, y bydd ei angen gan Uned Cofnodion Troseddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, fel y gellir cynnal gwiriadau am ddim. Codir tâl ar staff darpariaethau preifat am bob gwiriad unigol.



