Q: Sut gallaf sicrhau bod y gofal plant a ddarperir yn ateb y gofynion cyfreithiol?
A:
Yng Nghymru, mae rheoleiddio’r ddarpariaeth gofal plant dan 8 oed yn rhan o ddyletswyddau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae’r Arolygiaeth yn sicrhau fod darpariaethau gofal-plant yn cydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a restrir dan y Rheoliadau ar Warchod Plant a Gofal Dydd. Geill y bydd modd i gyfundrefnau mantell helpu gyda’r broses gofrestru. Mae. Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi llyfryn ar Ddewis Gofal Plant er mwyn helpu rhieni i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis gofal plant, gwybodaeth sydd ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth Plant. Dylid yn ogystal ystyried y gofynion cyfreithiol parthed staffio, cyflogau ac yswiriant.



