Q: A oes arweiniad hawdd sy’n manylu ar lefelau’r cymwysterau chwarae a gofal y bydd fy staff eu hangen yn ein lleoliad gofal-plant?
A:
|
Dan amodau’r safonau gofynnol cenedlaethol y mae angen i 50% o’r staff yn y lleoliad I fod â chymwysterau addas, gan gynnwys y person sydd yng ngofal y lleoliad. Mae angen i’r person sydd yng ngofal y lleoliad fod yn meddu ar gymhwyster gofal plant neu waith chwarae lefel 3 ac mae angen i 50% o weddill y staff fod ag o leiaf lefel 2. Mae’n werth cofio bod yn rhaid i’r nifer o staff cymwys fod yn uwch, lle mae’r staffio ar sail gylchol, er mwyn cadw’r lefel hon o gymhwyster. Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ystod y cymwysterau priodol, ymgynghorwch â’r fframwaith cenedlaethol o gymwysterau achrededig ‘Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae ar www.wales.gov.uk/educationandskills Ffynhonnell ddefnyddiol arall o wybodaeth ar faterion datblygiad staff yw Cyngor Gofal Cymru. www.ccwales.org.uk |


