Home Page About Us FAQs Training Newsroom Downloads Contact Us Links Projects Vacancies Find Clubs Events
Cymraeg
logio mewn
Frequently Asked Questions
North Wales Regional Office West Wales Regional Office South East Wales Regional Office

Yn ôl

Q: Rydym yn codi cost yr awr ond mae’r rhan fwyaf o’r plant yn ein Clwb Ar Ôl Ysgol yn aros tan 4.30yp yn unig sydd yn golygu bod angen i ni dalu am ddau aelod o staff i edrych ar ôl dim ond 3 plentyn tan 5.30yp. Sut gallwn gyflenwi ein costau?

A:

Mae’n gyffredin y dyddiau hyn i symud i ffwrdd o godi gost yr awr. Mae nifer o glybiau yn awr yn codi cost y sesiwn sydd yn golygu bod rhieni yn talu ffi penodol ar gyfer lle plentyn pa bryd bynnag y maent yn eu casglu. Yr ymresymu y tu ôl i hyn yw bod y gost yr un peth os yw plentyn yn gadael am 4.30yp neu am 5.30yp. Wedi i blentyn fynd adref ni allwch lenwi’r lle hwnnw, ond mae dal angen i dalu'r ail aelod o staff. Esboniwch i’r rhieni eu bod yn talu am lle plentyn ac nid am gyfnod o amser ac er mwyn i chi barhau i gynnig y gwasanaeth mae angen i chi sicrhau eich bod yn cyflenwi eich costau.

Mae’n bosib y bydd angen i chi gyflwyno hyn i rieni yn gan bwyll gan ei bod yn golygu y bydd yn fwy costus iddynt. Rhowch ddigonedd o rybudd ynglyn â’r newid trwy ddanfon llythyrau gartref neu trwy hysbysiadau yn eich newyddlen. Hefyd rhowch y cyfle iddynt i ofyn cwestiynau yngln â’r system newydd. Os yw rhieni yn deall yr ymresymiad tu ôl i’r newid yma mae’n bosib y byddant yn fwy parod i’w derbyn.

Free Membership
Hawlfraint © Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs | Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau