Cais Ar-lein i UCT CGGC
Bydd nifer ohonoch yn gyfarwydd â gofyn am wiriadau’r SCT, ac yn defnyddio’r gwasanaeth a gynigir gan Uned Cofnodion Troseddol CGGC ar hyn o bryd.
Y newydd da yw bod y broses ar fin cael ei symleiddio gan fod yr UCT wedi ei chymeradwyo yn Gorff e-Gofrestredig, ac mae wedi datblygu gwasanaeth ar-lein i geiswyr gwiriadau’r SCT.
Mae gan wasanaeth ar-lein y SCT sawl mantais dros y ceisiadau arferol ar bapur gan y golyga na fydd costau post na phapur; ni raid aros i dderbyn y ffurflenni cais am ddatgeliad; mae ichi eich cyfrif eich hun i reoli ac olrhain ceisiadau, dull hawdd o ymgeisio ar lein (gan osgoi ceisiadau a wrthodir oherwydd camgymeriadau); derbynnir y canlyniadau drwy ddull hwylus, electronig, ac yn olaf, y mae’n gwbl ddiogel ac yn cyflymu’r broses.
Fel defnyddiwr cofrestredig gwasanaethau’r UCT, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw gwneud cais am ddod yn ddefnyddiwr gwasanaeth ar-lein yr UCT; bydd modd ichi wedyn gwblhau eich cais ar lein. Pam na rowch ganiad i UCT CGGC i wybod mwy? 0800 0197 391.
Angen help i dalu am ofal plant? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Gredydau Treth Gwaith.
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Gwelwch isod y dolenni i’ch cysylltu â’r ddogfen gofrestru newydd i ddarparwyr gofal plant. Ni chaiff ei hanfon bellach gan AGGCC, ond bydd gofyn i ddarparwyr ei lawrlwytho a phrintio copi i’w chwblhau.
Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal-Plant neu eich Swyddfa Ranbarthol os hoffech gymorth i gwblhau eich cais.
Gofynnwch i Endsleigh am ddyfyniad am yswiriant elusen!
Byddem yn dra diolchgar am eich cefnogaeth. Gwerthfawrogir rhoddion o unrhyw swm, a rhown gymorth i ddatblygu clwb all-ysgol ym mhob cymuned sy’n awyddus i’w cael. Cliciwch yn awr ar y botwm ‘Sut i gyfrannu’ isod.
Hoffem ni yma yn Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs glywed gennych. Mae croeso i chi gynnig unrhyw adborth drwy roi clic ar y ddolen, ‘Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau’ isod.
Hawlfraint © Clybiau Plant Cymru Kids'
Clubs | Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau







