Home Page About Us FAQs Training Newsroom Downloads Contact Us Links Projects Vacancies Find Clubs Events
Cymraeg
logio mewn
Links
North Wales Regional Office West Wales Regional Office South East Wales Regional Office
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) - Mae AGGCC yn canolbwyntio ar y dinesydd sy'n cefnogi'r gwaith o wella gofal,y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy godi safonau, gwella ansawdd y gwasanaethau, hyrwyddo arferion gorau a thrwy reoleiddio, arolygu a datblygu. Rydym hefyd yn darparu cyngor proffesiynol annibynnol.

Chwarae Cymru - Chwarae Cymru yw sefydliad cenedlaethol chwarae plant yng Nghymru. Rydym yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer da ym mhobman ble y gall plant chwarae.

Chwarae Dysgu a Thyf'un Iach - Mae prosiect Chwarae Dysgu a Thyfu’n Iach Sir Gaerfyrddin yn brosiect 3-blynedd ar y thema ‘Ffrindiau Iach’, sydd yn gweithio’n bennaf gyda phlant oed 7/8 a 10/11 drwy gyfrwng prosiect ‘cyfeillio’, gan ymestyn i gyrraedd plant iau, oed 2 a throsodd, a’u teuluoedd.

Chwiliwr Elusen - Rhestrir Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn DIVIDE: gwefan chwiliwr elusen.

Cronfa Foresters i Blant - Mae Cronfa Foresters i Blant yn unigryw yn ei gwaith yn helpu eraill i helpu plant drwy roi grantiau yn bennaf i’r elusennau plant lleol, bychain drwy’r DU sydd mewn taer angen am gymorth, ond sydd yn ei chael hi’n anodd cystadlu ag elusennau mwy eu maint. Weithiau mae’r grantiau a wneir gan y Gronfa yn gyfwerth â’r swm a fyddai’n arbed yr elusennau rhag gorfod cau. Dros y blynyddoedd y mae’r gronfa wedi helpu 500,000 o blant. Mae cefnogaeth gan unigolion a busnesau bychain yn golygu cefnogaeth i fwy o blant diymgeledd.

Cyngor Gofal Cymru - Sefydlwyd Cyngor Gofal fis Hydref 2001 i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymysg gweithwyr gofal cymdeithasol a safonau uchel yn eu hyfforddiant. Ein nod yw sicrhau gall plant ac oedolion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol ddibynnu ar weithlu sydd wedi'i hyfforddi'n gywir, sydd â'r cymwysterau addas a sy'n cael ei reoleiddio'n effeithiol.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli ac yn ymgyrchu dros fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnwys 60 Aelod etholedig ledled Cymru. Mae’r Cynulliad wedi dirprwyo llawer o’i rym i’r Prif Weinidog , sy’n arwain Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dragon Helpers - Lansiwyd Dragon Helpers ar Fawrth y 1af – Dydd Gwyl Dewi 2007. Prif bwrpas Dragon Helpers yw codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer 15 o elusenau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sydd yn gweithio gyda’i gilydd fel grŵp a adnabyddir fel y Dragon Charities. Mae Dragon Helpers yn cynrychioli Dragon Charities gan ac mae’r elusenau i gyd yn elwa’n hollol gyfartal o’r enillion. Cynrychiloi’r Dragon Charities gan Dragon Helpers ac mae’r elusenau i gyd yn buddio’n hafal o’r enillion a godir.

Easyfundraising.org.uk - Cefnogwch Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wrth i chi siopa ar-lein www.easyfundraising.org.uk Defnyddiwch unrhyw un o’r 200+ dolen a ddarparwyd i rai o brif manwerthwyr ar-lein y DU. Pa bryd bynnag byddech yn siopa ar-lein, byddem yn derbyn cyfraniad o hyd at 15% o bob pwrcasiad a wnaethpwyd.

Fy Nghinio Ysgol (Pen-y-Bont) - Mae Fy Nghinio Ysgol yn wefan hwyliog, ryngweithiol sy'n anelu at hysbysu rhieni ac addysgu disgyblion ar fwyta'n iach, yn ogystal a rhoi'r newyddion diweddaraf ar brydau ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Gwaith Chwarae Cymru - Gwaith Chwarae Cymru yw'r Ganolfan Genedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae yng Nghymru. Rydym yn cefnogi'r sector gwaith chwarae i drosglwyddo gwasanaethau o safon i blant, trwy hyrwyddo addysg a hyfforddiant o safon a datblygiad cymwysterau yng Nghymru.

Plant yng Nghymru - Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer rhai’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Ein hamcanion yw hyrwyddo buddiannau’r grwpiau hyn a gweithredu i ddiwallu eu hanghenion.

Re-Create - Cymdeithas Chwarae y sector gwirfoddol yng Nghaerdydd a Fro Morgannwg, ei gwasanaeth mwyaf cydnabyddus yw’r Ganolfan Adnoddau Chwarae aka Scrapstore. Re-Create Ely Bridge Industrial Estate Wroughton Place Cardiff CF5 4AB Tel: 029 2057 8100

Uned Cofnodion Troseddol - Rheolir yr Uned Cofnodion Troseddol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a noddir y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Rydym yn Gorff Cofrestredig Ymbarél i'r CRB Rydym yn adlofnodi ceisiadau am ddatgeliadau ar gyfer gwirfoddolwyr a staff cyflogedig sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Free Membership
Hawlfraint © Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs | Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau