Home Page About Us FAQs Training Newsroom Downloads Contact Us Links Projects Vacancies Find Clubs Events
Cymraeg
logio mewn
Membership
North Wales Regional Office West Wales Regional Office South East Wales Regional Office


Aelodaeth:

 

Mae aelodaeth o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs Membership of Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ar gyfer  2009-10 ar gael am:

 

  • £32.00 y clwb

 

Pam dod yn aelod? 

  • Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw llais cenedlaethol Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru.
  • Cewch arweiniad arbenigol ar gynllunio busnes, ehangu, cofrestru, sicrwydd ansawdd, a phob agwedd arall ar ddarparu Clwb Gofal Plant All-Ysgol.*
  • Cefnogaeth gan eich swyddfa ranbarthol – sy’n rhoi arweiniad ar faterion gofal-plant a busnes.*
  • Tîm ariannu a chefnogaeth wrth law i’ch cynorthwyo â cheisiadau grant a syniadau am godi arian.* E-fwletin misol yn cynnig ffynonellau ariannu penodol (bydd eich cyfeiriad ebost yn ofynnol).
  • Hawl Pleidleisio – manteisiwch ar eich hawl i ethol cynrychiolydd rhanbarthol ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs – fel y gellwch effeithio ar sut y rheolir eich cyfundrefn chi! *
  • Mynediad i dudalennau gwe ac adnoddau sy’n arbennig ar gyfer aelodau, ar www.clybiauplantcymru.org
  • Gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol yn DDI-DÂL neu ar ddisgownt, drwy gyfrwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ynghyd a chyngor / arweiniad ar yr Awdurdod Diogelu Annibynnol.*
  • Tanysgrifiad i’n newyddlen chwarterol ‘Y Bont’ AM DDIM – a graddfeydd hysbysebu gostyngol.
  • Cyhoeddiadau achlysurol AM DDIM neu ar ddisgownt.
  • Hyrwyddiad AM DDIM drwy gyfleuster ‘Chwiliwr Clwb’ ar wefan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.*
  • Cyrsiau hyfforddi AM DDIM neu ar ddisgownt i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol.*
  • Yswiriant ar ddisgownt drwy Morton Michel – arbenigwyr mewn yswiriant gofal plant.*
  • Cewch hysbysebu swyddi gwag yn eich clwb ar ein gwefan –YN DDI-DÂL – does ond angen i chi e-bostio recruitment@clybiauplantcymru.org
Mae *  yn dynodi eu bod ar gael i aelodau sy'n Glybiau Gofal Plant All-Ysgol YN UNIG.  Gweler y ffurflen gais briodol ar gyfer y buddiannau sydd ar gael i bob math o aelod.

 

 

Os hoffech ddod yn aelod o Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs darlwythwch y ffurflen gais am aelodaeth os gwelwch yn dda, a’i dychwelyd, gyda’ch siec, i’r Swyddfa Genedlaethol.  Neu, am dderbyn ffurflen gais drwy’r post, cysylltwch â ni ar 029 2074 1000. neu ebostiwch membership@clybiauplantcymru.org.

Ffurflen Gais Aelodaeth 2010/11: I Glybiau Gofal-Plant All Ysgol [PDF - 944KB] - Download
Ffurflen Gais Aelodaeth Gysylltiol 2010 / 2011: Categori 1: ar gyfer rhai sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer plant[PDF - 1MB] - Download
Ffurflen Gais 2010 / 2011 Aelodaeth Gysylltiol: Categori 2: ar gyfer Unigolion a Chyfundrefnau sy’n dymuno Cefnogi Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru.[PDF - 948 kb] - Download


You will need Acrobat Reader to view downloaded files from this page.
Click here to get a free copy of Acrobat Reader.

Free Membership
Hawlfraint © Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs | Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau