Bydd y prosiect yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth o werth gweithgaredd corfforol/bwyta iach, a chyflwyno syniadau ar gyfer ‘cyfeillio’ mewn amgylchedd sy’n draddodiadol anaddysgiadol. Yn aml canolbwyntir gwaith yn y maes hwn ar raglenni iechyd a gyflwynir drwy ysgolion, fodd bynnag, bydd y prosiect hwn yn darparu ‘dysgu drwy chwarae’. Bydd y gweithgaredd yn canolbwyntio’n bennaf ar ‘gyfeillio’ gyda phlant oed ysgol iau, sydd yn mynychu clybiau gofal plant all-ysgol, ynghyd â gwarchodwyr plant. Rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth i bob plentyn sy’n gwirfoddoli i ddod yn ‘gyfeillion’.
Ariannwyd y prosiect â £425,797 o fenter Ffordd o Fyw Cronfa’r Loteri Fawr sy’n anelu at ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o hyrwyddo bwyta’n iach, gweithgaredd a chwarae ymysg plant drwy brosiectau sy’n cynnwys y teulu cyfan.
Bu gordewdra ymysg plant yn un o’r tueddiadau a achosodd y mwyaf o breeder ym maes iechyd yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf, â mwy o blant dros bwysau nag erioed o’r blaen. Mae Ffordd o Fyw yn anelu at wrthsefyll gordewdra ymysg plant drwy ddefnyddio tri model gwahanol y mae’r prosiectau llwyddiannus yn eu defnyddio i gyflwyno’r rhaglen.
Mae gan Bartneriaid y Prosiect, Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, Mudiad Ysgolion Meithrin a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru, hanes o gydweithio’n llwyddiannus â’i gilydd. Cânt eu cynrychioli o fewn i Awdurdodau Lleol ar Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc, ac mae ganddynt gysylltiadau â’r Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, a phob agwedd berthnasol o’r Adran Addysg, y Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG.
Ceir datganiad llawn i’r wasg ar ein tudalen Ystafell Newyddion.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â rheolydd y prosiect:
Karen Pereira: 07977200318 / 01792 483031

Prosiect Clybiau Plant
Daeth y Prosiect Clybiau Plant, prosiect gwerth £5.7 miliwn, a ran-arianwyd gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru, i ben ym Medi 2008 wedi tair blynedd.
O ganlyniad i’r prosiect, mae clybiau wedi eu paratoi’n well ar gyfer y dyfodol - gwell sgiliau, gweithlu mwy cymwysedig, clybiau newydd a lleoedd newydd. Mae 4800 o bobl wedi cael eu hyfforddi. Mae 116 o glybiau newydd wedi dechrau, gan greu mwy na 2000 o leoedd newydd. Mae 70 o glybiau wedi derbyn grantiau cynaliadwyedd a chefnogaeth.
Ymhellach, y mae teuluoedd na allent fforddio ffioedd gofal plant, neu’r rhai yr oedd arnynt angen cefnogaeth un-i-un, wedi elwa’n uniongyrchol drwy’r 481 o grantiau help llaw ychwanegol a’r 236 o grantiau lleoedd-a-gynorthwyir a wobrwywyd drwy’r prosiect.
Bydd y cyhoeddiadau a’r adnoddau a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect yn cefnogi ansawdd ac arloesedd mewn clybiau gofal plant all-ysgol am flynyddoedd i ddod.
Clybiau Plant - Datrysiadau Clybiau ar gyfer Plant ag Anghenion Arbennig Clybiau Anhraddodiadol: Nosweithiau a Phenwythnosau Cawl Cymysg: Mathau Eraill o Arloesedd ac Arferion Da mewn Clybiau
yn dangos arloesedd ac arferion da mewn clybiau gofal plant
Mae'r ffilm Clybiau Plant yn Chwarae yn arddangos clybiau gofal plant all-ysgol yng Nghymru, ac effeithiau'r Prosiect Clybiau Plant, a ariannwyd gan raglen Amcan 1 Ewrop.
CWLWM Mae prosiect CWLWM bellach wedi dod i ben, ac mae’r cit offer datblygu busnes ar gyfer y sector gofal plant yng Nghymru - ‘Barod Aros Ewch’ nawr ar gael. Am fanylion ynghylch gael copi o’r cit offer, sydd ar gael ar ffurf electronig, neu mewn ffolder A4 yn ôl y galw, cysylltwch â Bethan Pocock (rheolwraig prosiect) yn ein Swyddfa Genedlaethol. Am wybodaeth bellach ynghylch cynnwys y cit offer, cliciwch y dolen i weld disgrifiad o’r cit offer. .jpg)



