Amddiffyn Plant
Bydd gweithwyr chwarae sy’n edrych arm hyfforddiant er mwyn gwella ar eu gwaith ymarferol o ddydd i ddydd, fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus, ar eu hennill o ddilyn y cyrsiau hyn.
Amddiffyn Plant Mae’r cwrs undydd hwn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar faterion amddiffyn plant ar gyfer staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant. Mae’r cwrs, a ddatblygwyd ar y cyd â’r NSPCC, yn rhoi i gyfranogwyr y wybodaeth angenrheidiol er mwyn adnabod arwyddion cam-drin plant, ac i adrodd yn ôl ar gwynion. Adolygir arferion da wrth baratoi polisi a gweithdrefnau amddiffyn plant. Rhoddir tystysgrif presenoldeb i gyfranogwyr sy’n mynychu gweithdy llawn. (6 awr) I gael dyddiadau a lleoliadau y cwrs hwn, ac eraill yn eich ardal, ewch i'r tudalennau rhanbarthol yng nghornel uchaf ochr dde'r dudalen hon, a chliciwch ar 'hyfforddiant'. Cliciwch ar god post y lleoliad am fap.



