Climate Action Boost

Cefndir

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cefnogi’r sector Gofal Plant Allysgol. Cyn pandemig Covid-19 cyflawnwyd hyn bron yn gyfan gwbl drwy gyfrwng cefnogaeth wyneb-yn-wyneb a sesiynau hyfforddi ledled Cymru, gan olygu i’n staff deithio dros 54,000 o filltiroedd bob blwyddyn. Nid yw’r ffigur yma’n cynnwys y milltiroedd y mae Dysgwyr hefyd wedi eu teithio i fynychu sesiynau, ac â bron 88,000 yn bresennol mewn cyrsiau hyfforddi rhwng 2003 a 2020, mae’r nifer hwn yn debygol o fod gryn dipyn yn uwch.

Gwelodd rhai agweddau ar arferion ein cyfundrefn hefyd y defnydd o symiau mawr o argraffu gan ddefnyddio inc, cetris a thros 10,000 dalen o bapur yn flynyddol. Roedd cyflenwi’r trosgludo a phecynnu’r eitemau hyn hefyd yn achos pryder. Fel cyfundrefn gwnaethom gydnabod ein heffaith ar yr amgylchedd, ac roedd ein Polisi Amgylcheddol yn ymgais i leihau’r effaith honno wrth barhau i ddarparu gwasanaeth, ac roeddem yn cymryd rhywfaint o gamau bychain cyn y prosiect er mwyn gweithredu’n synhwyrol.

Our partners

Project’s partners