Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau

Yn elusen gofrestredig, dibynnwn ar ariannu trwy grantiau a rhoddion i gefnogi ein gwaith craidd a darparu cyfleoedd cyfartal i blant ledled Cymru.

Cawn ein hariannu gan amrywiaeth eang o ffynonellau, yn cynnwys Llywodraeth Cymru (drwy’r Grant Cyflenwi Plant a Theuluoedd) a’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Rydym hefyd yn cael ein hariannu o ffynonellau amrywiol i gyflenwi prosiectau a hyfforddiant.

Hoffem ddiolch i’n holl arianwyr sy’n cyfrannu at Ofal Plant All-Ysgol yng Nghymru, gan roi i rieni/gofalwyr y cyfle i barhau i weithio / dychwelyd i fyd gwaith a/neu hyfforddiant, yn dawel eu meddwl fod eu plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel ac ysgogol, gan staff cymwysedig.

Support us

Gallwch chi helpu! Gwerthfawrogwn roddion o unrhyw faint at unrhyw bwrpas. Cyfrannwch yma trwy PayPal.

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!