Asesiadau Risg

Angen help i gwblhau asesiadau risg? Efallai eich bod yn mynd drwy’r broses o agor a chofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, neu efallai eich bod yn wasanaeth sydd wedi hen sefydlu, sy’n adolygu eich proses asesu risg yn wyneb Covid-19. Pa un bynnag ydyw, fe allwn ni helpu!

• Mae ein Harweiniad i Asesu Risg yn eich cymryd trwy ystyriaethau’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a rhai cynghorion campus
• Bydd ein templed asesu risg Covid-19 diwygiedig yn eich helpu i ystyried y risgiau presennol yn unol â’r Arweiniad ar gyfer gofal plant a gwaith chwarae: Coronafeirws
• Gellir defnyddio ein cynllun Asesu Risg Iechyd a Diogelwch fel templed i’ch ystyriaethau asesu risk
• Mae ein Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch yn Camu Allan yn cynnwys rhestr o ystyriaethau o beryglon posibl.
• Mae ein templed o ffurflen Asesu Risg gweithgaredd yn ddefnyddiol ar gyfer ystyried y categorïau o weithgareddau yr ydych yn ymgymryd â nhw fel Lleoliad.

Cofiwch fod ein holl dempledi i’w defnyddio ddim ond fel sail i’ch ystyriaethau – mae pob Clwb yn wahanol ac mae’n bwysig adnabod y peryglon posibl a’r mesurau rheoli sy’n unigryw i’ch amgylchiadau a’ch man cyfarfod chi.

 

Mynnwch Fynediad Llawn

Mae’r cynnwys hwn ar gael i aelodau’n unig.

Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gael mynediad at gannoedd o’n hadnoddau. Mae aelodaeth yn gwarantu eich mynediad at gynnwys o safon gennym, sydd cael ei lunio’n ddyddiol i'ch helpu I gefnogi’ch clwb.