‘Defnyddiwch neu Collwch’/Templed Cymorth i Glybiau Allysgol

I gefnogi ein pecyn marchnata i Leoliadau, rydym wedi creu Templed Cymorth ‘Cefnogwch neu Collwch’ i Glybiau allu denu cefnogaeth o’u cymunedau drwy roi gwybod iddynt fod y Lleoliad mewn risg o gau o ganlyniad i niferoedd mynychu is nag arfer.

Mae ymyriadau i addysgu, busnesau’n gorfod cau a symudiad at rieni/gofalwyr yn gweithio gartref wedi effeithio ar lawer o Glybiau Gofal Plant Allysgol, drwy eu gadael â llawer llai o blant nag arfer yn eu mynychu, a nifer ohonynt wedi cau dros dro.

Wrth i’r cyfyngiadau cyfnod-clo presennol lacio ac wrth i deuluoedd gynllunio eu trefniadau gofal plant am y tymor i ddod, dros wyliau’r ysgol a thu hwnt i hynny, mae’n bosibl mai dyma’r amser iawn i ofyn am eu cefnogaeth o ran archebion am le, neu adael iddynt wybod eu bod mewn risg o golli am byth y gofal plant fforddiadwy a lleol y mae eich Lleoliad yn ei darparu.

Mae’r templed hwn yn ychwanegol at amryw o adnoddau marchnata eraill i Glybiau sy ‘n aelodau, ac sydd i’w cael yn ardal aelodau ein gwefan; maent yn cynnwys:

  • Gwybodaeth ynghylch canfod eich Pwynt Gwerthu Unigryw a sut i greu delwedd gyhoeddus broffesiynol (e-bost/ffôn)
  • Taflenni templed i Leoliadau cofrestredig
  • Templed newyddlen a chynghorion campus ar lunio newyddlen
  • Arweiniad ar sut i ddatblygu strategaeth farchnata