Cynllunio Ariannol, Systemau Ariannol a Chynaliadwyedd

Tra bod pob Darpariaeth Gofal Plant yn anelu at hoelio’u sylw ar y gymuned a chynnig gwasanaethau fforddiadwy, o ansawdd o’i mewn, dylent hefyd gael eu rhedeg ‘fel busnes’. Mae bod â systemau rheoli ariannol effeithiol a chynllunio yn eu lle yn allweddol i rediad effeithiol busnes Gofal Plant, ac i sicrhau llwyddiant yn y tymor hir.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu rhywfaint o adnoddau a chanllawiau defnyddiol i gefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol i ddefnyddio systemau ariannol a chynllunio i gefnogi eu cynaliadwyedd. Mae’r templedi hyn ar gael i Aelodau’n Unig, a cheir hyd iddynt drwy glicio yma.

Yn rhan o’ch Systemau Ariannol, dylid cadw cyfrifon yn fisol, yn rhoi manylion pob incwm a gwariant sydd wedi digwydd. Ceir hyd i wybodaeth ar baratoi a chadw cyfrifon yma. Y mae hefyd wybodaeth ar sicrhau bod cyfrifon wedi eu gwirio’n annibynnol (neu eu harchwilio os oes angen) yma.

Drwy ddefnyddio Mynegeion Perfformiad Busnes (MPB)Through using Business Performance Indicators (BPIs) i’ch cyfrifon a chadw cofnodion ariannol, cewch syniad o ‘iechyd’ eich busnes. Mae’r MPB yn cynnwys:

1. Proffil Capasiti – archwiliad o’r nifer o leoedd sydd ar gael gennych yn erbyn nifer y lleoedd sydd wedi eu cymryd, a’r holl sesiynau y talwyd amdanynt.

2. Cynhyrchu Incwm – o ffioedd, grantiau, codi arian a chredydau treth

3. Gwariant – staffio, adeilad, defnyddiau traul ac unrhyw wariant arall.

Dylai’r balans bob tro fod yn gogwyddo o blaid cynhyrchu elw neu warged, a fydd yn gadael arian y gellid yna ei ddefnyddio pan fydd ei angen. Yn achos Clybiau sy’n aelodau, mae modd i’n Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant eich cynorthwyo i wneud ‘Gwiriad Iechyd Busnes’ er mwyn adolygu ac adlewyrchu ar hyn (am wybodaeth bellach cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol).

Fel busnes, dylech hefyd fod â rhagolwg o’r yr incwm a’r gwariant tybiedig yn y dyfodol. Mae rhagolwg llif arian yn erfyn busnes hanfodol i’ch galluogi i adolygu ar sut fydd eich busnes yn symud yn ei flaen petai sefyllfa benodol yn aros heb newid, neu mewn sefyllfaoedd arbennig, penodol eraill. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i ddangos i arianwyr fod gennych gynllunio ariannol cynhwysfawr yn ei le, ac i ddangos eich cynaliadwyedd yn y tymor hir (a/neu eich angen am gefnogaeth ariannol yn y tymor byr tra rhoddir strategaethaunewydd i gefnogi cynaliadwyedd yn eu lle).

Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs dempled Rhagolwg Llif Arian sydd wedi profi ei werth, ac sydd ar gael i’w ddefnyddio gan Glybiau Gofal Plant Allysgol sy’n aelodau (aelodau, cysylltwch â webinar@clybiauplantcymru.org os hoffech gopi o hyn). Rydym hefyd wedi datblygu gweminar newydd sy’n canolbwyntio ar gynllunio ariannol, ac sy’n cwmpasu sut y dylid defnyddio’r rhagolwg llif arian. Bydd copi o’r weminar hon, wedi ei recordio ymlaen llaw, ar gael yn fuan i aelodau a’r rhain nad ydynt yn aelodau, drwy gysylltu â webinar@clybiauplantcymru.org.

Yn rhan o’ch prosesau cynllunio ariannol, gall hefyd fod yn ddefnyddiol ymgymryd â dadansoddiad SWOT o’ch cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau. Gall yr adlewyrchiad hwn, ynghyd â’ch rhagolwg llif arian, eich helpu i weld pa gamau sydd eu hangen er mwyn manteisio ar y cryfderau a’r cyfleoedd a lleihau i’r eithaf y gwendidau/bygythiadau, a bydd yn gymorth i chi adolygu eich cynllun busnes a’ch cyfeiriad yn y dyfodol. Ceir hyd i wybodaeth ar sut i ymgymryd â dadansoddiad SWOT yma.

Drwy gofnodi, adolygu a chynllunio eich sefyllfa ariannol yn effeithiol, rydych yn cynyddu’ch gallu i sylwi ar dueddiadau, ac adweithio yn amserol i broblemau a allai godi, gan geisio help a chefnogaeth ychwanegol os bydd angen (e.e. drwy wneud cais am ariannu). Ceir hyd i ffynonellau ariannu posibl y byddech efallai am wneud cais amdanynt yma. Rydym hefyd wedi ysgrifennu rhai cynghorion campus i’w hystyried wrth ysgrifennu ceisiadau ariannu, ac arweiniad cam wrth gam, mwy cynhwysfawr, i ysgrifennu ceisiadau am ariannu i aelodau yma.

Am fanylion ar sut i ddod yn Aelod o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ewch i www.clybiauplantcymru.orgneu cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol.