Dathlwch Diwali

Mae Diwali, a elwir hefyd yn Ŵyl y Goleuni, yn brif ŵyl yn y crefyddau Hindŵaeth, Jainistiaeth a Siciaeth. Eleni bydd yn dechrau ar Hydref 24, 2022 ac yn para am 5 diwrnod. Mae’r dathlu, yn gyffredinol, yn symbol o ddechreuadau newydd a buddugoliaeth y golau dros y tywyllwch.

Modd y dathlu fel arfer fydd pobl yn addurno eu cartrefi, yn prynu rhoddion, yn cael gwleddoedd, tân gwyllt a goleuo peth wmbredd o oleuadau a lampau ole war y strydoedd ac yng nghartrefi pobl.

Mae’n bwysig bod plant yn gwybod am wahanol wyliau. I fod yn rhan o hyn:

  • Darllenwch stori am Diwali gyda’ch gilydd.
  • Gwhoddwch rywun o’r gymuned sy’n dathlu Diwali i sôn am eu gŵyl.
  • Gwnewch does playdough persawrus i gardamom drwy falu ac ychwanegu hadau cardamom.
  • Gwnewch lusernau papur neu o boteli llaeth.
  • Gwnewch ddiyas o does halen
  • Coginiwch gyda’ch gilydd
  • Rhannwch felysion neu ffrwyth wedi’u sychu, neu dowch o hyd i rysáit melys ar gyfer Diwali.