Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad Shanley

Mae’r uchod yn dyfarnu grantiau i helpu achosion da lleol, ac yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr sy’n ceisio gwella lles ac ansawdd bywyd pobl o dan anfantais yn y gymuned.

Y mae hefyd yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau a gwyliau cymunedol lleol, sgowtiaid a geidiau, ysgolion lleol a chlybiau cymdeithasol.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.


Cynllun cymunedau diogelach Burg-Wächter

Gweithgynhyrchwr coffrau a blychau post mwyaf Ewrop yn dyfarnu pecynnau o gitiau diogelwch gwerth rhwng £150 a £200 i brosiectau neu sefydliadau cymunedol.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Cronfa Chwarae Cymunedol y DU

Mae Cronfa Chwarae Cymunedol y DU’n hollbwysig o ran llesiant a datblygiad sgiliau plant, a gallwn oll chwarae rôl yn meithrin cymunedau mwy chwareus. Wedi ei gefnogi gan Sefydliad LEGO, mae’r Sialens    £145,000 hwn wedi ei dynodi ar gyfer eich helpu i greu profiadau mwy chwareus i blant yn eich cymunedau, eich ysgolion neu’ch cymunedau ar draws y DU.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.