Diolch i bwyllgorau gwirfoddol Clybiau Allysgol

Diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr sy’n helpu i reoli Clybiau Allysgol drwy Gymru gyfan.

Mae 306 (36%) o’r Clybiau Gofal Plant Allysgol yn cael eu rheoli gan wirfoddolwyr, sy’n cefnogi bron i 16,500 o blant a’u teuluoedd. Mae gennym bolisïau templed, canllawiau a gweminarau i gefnogi pwyllgorau.

Mae dod yn aelod yn ddi-dâl ar hyn o bryd, cysylltwch â ni ar membership@clybiauplantcymru.org i gwblhau eich cais.