Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Dydd Iau 10fed o Dachwedd 2022 – Diwrnod Gwyddoniaeth y Byd dros Heddwch a Datblygiad
Mae Diwrnod Gwyddoniaeth y Byd ar gyfer Heddwch a Datblygiad, sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol ar y 10fed o Dachwedd, yn tanlinellu pwysigrwydd a rôl a pherthnasedd arwyddocaol gwyddoniaeth mewn cymdeithas. Nod y diwrnod yw sicrhau bod dinasyddion yn cael gwybod am ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a sut y gallwn ddefnyddio gwyddoniaeth i wneud ein cymdeithas yn fwy cynaliadwy. Ei nod hefyd yw hyrwyddo undod rhyngwladol ar gyfer gwyddoniaeth a rennir, tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan wyddoniaeth, ac adnewyddu ymrwymiad i ddefnyddio gwyddoniaeth heddychlon a chynaliadwy er budd cymdeithasau.


7-11eg o Dachwedd – Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen
Nod Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen yw hyrwyddo gwell dealltwriaeth o straen a chynnig ffynonellau cymorth i unigolion a sefydliadau. Y thema eleni yw ‘Cydweithio i Adeiladu Gwydnwch a Lleihau Straen’. Bydd Cymdeithas Ryngwladol Rheoli Straen a’i haelodau yn y DU yn cynnal gweithdai a chyflwyniadau ar-lein ac all-lein gyda strategaethau ymdopi a gwybodaeth am straen.


7-11 Tachwedd – Wythnos Siarad am Arian
Nod Wythnos Siarad am Arian yw dileu’r stigma ar drafodaethau ynghylch arian. Mae 1 o bob 3 o bobl yn dweud bod meddwl am eu sefyllfa ariannol yn eu gwneud yn bryderus. Nod yr wythnos yw helpu pobl i drafod arian yn agored, o arian poced i bensiynau gyda ffrindiau ac aelodau o’r teulu a gyda gweithwyr proffesiynol os oes angen. Gallwch gymryd rhan trwy gael sgwrs syml gyda ffrind neu aelod o’r teulu am arian a thorri’r tabŵ.