Diwrnodau Ymwybyddiaeth 28/11/2022

Dydd Gwener Rhagfyr 2 2022 – Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Caethwasiaeth

Yn ôl y sefydliad llafur rhyngwladol, (International Labour Organisation) mae dros 40 miliwn o bobl ar hyd a lled y byd yn destun caethwasiaeth fodern, ac at hynny, 150 miliwn o blant  yn destunau llafur plant. Mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Caethwasiaeth yn canolbwyntio at ddileu ffurfiau cyfoes caethwasiaeth megis masnachu pobl, cam-elwa rhywiol, y ffurfiau gwaethaf o lafur plant yn ogystal â phriodasau gorfodol a recriwtio plant mewn gwrthdrawiadau arfog. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Cenhedloedd Unedig.

 

Dydd Sadwrn Rhagfyr y 3ydd 2022 – Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

Mae Cynhwysiad Anabledd yn hawl ddynol sylfaenol sy’n clymu ag agenda’r Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy sy’n gadael neb ar ôl. Dyfnhaodd pandemig COVID-19 ymhellach yr anghyfartaleddau a oedd yn bodoli eisoes, ac roedd pobl anabl ymysg y rhai a effeithiwyd fwyaf gan yr argyfwng. Yn yr wythnos y cyrhaeddodd poblogaeth y byd gyfanswm o 8 biliwn, mae gan 1 biliwn o bobl anabledd a thros 80% o’r rhai hynny’n byw mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae’r Diwrnod Pobl ar Anableddau Rhyngwladol hwn yn anelu at hyrwyddo hawliau pobl anabl ac ymladd yn erbyn anghyfartaledd.  I wybod mwy, ac ar ddigwyddiadau a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig, ewch i’r wefan.

 

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3ydd 2022 – Diwrnod Gwisgo Coed

Seilir y gweithgaredd, gwisgo coed, ar sawl hen arferion o sawl rhan o’r byd. Mae Diwrnod Gwisgo Coed yn digwydd ar y penwythnos cyntaf ym mis Rhagfyr ac fe’i cychwynnwyd gan Common Ground yn 1990.  Yn draddodiadol dathlwyd coed am eu harwyddocâd ysbrydol, ac mae’n gyfle i ddathlu arferion lleol a gwerthfawrogi natur a choed. Mae’n gyfle i ailgysylltu â thraddodiadau hynafol megis yr arfer Celtaidd o glymu darn o ddefnydd mewn dŵr o ffynnon sanctaidd. Gallwch hefyd fod yn rhan o hyn drwy addurno coeden Nadolig.