Cyfleoedd Ariannu 28/11/2022

Clwb Brecwast Greggs Foundation

Os ydych yn ysgol gynradd ac â diddordeb mewn gwneud cais am gael clwb brecwast.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

__________________________ 

Hyrwyddwyr Cymunedol Persimmon

Mae gwneud cais am rodd yn syml. Y cyfan sydd yn rhaid i chi ei wneud yw llenwi eu ffurflen ar-lein a dweud wrthynt pam fod eich grŵp neu’ch elusen yn haeddu eu cyfraniad.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

__________________________

 Cwmni ‘The Leathersellers’

Bydd Rhaglen Grantiau Bychain ‘Leathersellers’ 2022-23 yn ystyried ceisiadau gan elusennau sydd wedi eu cofrestru yn y DU ac sydd ar waith yma (yn cynnwys Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs), ond nid Cwmnïau Budd Cymunedol (CICs) sy’n gweithredu.

Mae grantiau o hyd at £5,000 i’w cael.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

__________________________

Grant cymorth costau byw  2022 – 2023

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Bro Morgannwg wedi sicrhau ariannu i gynorthwyo â’r cynnydd yng nghostau byw lleoliadau gofal plant ym Mro Morgannwg.

Bydd modd ymgeisio am grant hyd at 01 Chwefror 2023 neu hyd nes bydd yr  holl arian wedi ei ddyfarnu.

Grant Cymorth Costau Byw 2022 – 2023