Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Grant Cymorth Costau Byw 2022 – 2023

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Bro Morgannwg wedi sicrhau ariannu i gynorthwyo gyda’r cynnydd mewn costau byw lleoliadau gofal plant ym Mro Morgannwg.

Bydd modd ymgeisio am grantiau hyd at 01 Chwefror 2023 neu hyd nes bo’r holl ariannu wedi ei ddyrannu.

Cost of Living Support Grant 2022 – 2023


Cynllun Costau Craidd Plant mewn Angen

Mae Plant mewn Angen yn cynnig grantiau o hyd at £120,000 i elusennau a sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 mlwydd oed a thanodd yn y DU. Pwrpas y grantiau yw cefnogi’r costau craidd y mae angen eu talu i gynnal sefydliadau.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.


Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Rownd 2

Cronfa gwerth £150 miliwn dros 4 blynedd i gefnogi grwpiau cymunedol ar draws Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gael eu colli o gymunedau.

Yn cau ar Ragfyr 14eg 2022.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.