Ydy chi wedi Cofrestru gyda Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru?

Bydd yn rhaid i ddarparwyr sy’n dymuno parhau i ddarparu gofal plant o dan Cynnig Gofal Plant gofrestru ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol. Dim ond trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol y bydd yn bosib hawlio taliadau am ofal plant i’r rhai sy’n dechrau derbyn y Cynnig o fis Ionawr ymlaen.

Mae canllawiau a gwybodaeth am y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd, gan gynnwys sut i gofrestru ar gael yn Cymorth i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Ar ôl i chi gofrestru eich lleoliad, byddwch yn derbyn PIN i actifadu eich cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae mwy o wybodaeth am y broses hon ar gael yn Actifadu eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU  Ar ôl i chi dderbyn eich PIN, rhaid i chi fewngofnodi yn ôl i’ch cyfrif i actifadu eich cyfrif.

Peidiwch â chael eich gadael ar ôl. Cofrestrwch eich lleoliad ar wasanaeth cenedlaethol digidol Cynnig Gofal Plant Cymru nawr!