Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Rhyngwladol Cydsafiad Dynol – Dydd Mawrth Rhagfyr 20fed 2022   

Nododd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2005 fod cydsefyll yn un o’r gwerthoedd sylfaenol a byd-eang a ddylai danategu perthnasoedd rhwng pobloedd. Y mae’n  ddiwrnod i ddathlu ein hundod o ran amrywedd ac i gynyddu’r ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd cydsefyll. Gweler gwefan y Cenhedloedd Unedig am fwy o wybodaeth. 


Byrddydd Gaeaf (Alban Arthan) – Dydd Mercher Rhagfyr 21ain 2022  

Mae byrddydd gaeaf, neu ganol gaeaf yn digwydd ar Ragfyr 21ain neu’r 22ain yn Hemisffer y Gogledd, pan fydd pegynau’r Ddaear ar eu gogwydd mwyaf oddi wrth yr Haul.  Mae llai o olau haul yn cyrraedd y ddaear, a hyn yn arwain at ddiwrnod byrraf y flwyddyn yn Hemisffer y Gogledd, ac i’r gwrthwyneb, diwrnod hiraf y flwyddyn yn Hemisffer y De. Fe wnaeth gwareiddiadau hynafol adeiladu cofebion, megis Stonehenge, i ddathlu dyddiau heuldroadau’r gaeaf a’r haf.  Mae gan y National Geographic adnodd diddorol ar yr heuldro yn arbennig ar gyfer plant. 


Dydd Nadolig – Dydd Sul Rhagfyr 25th 2022 

Mae’r Nadolig yn ŵyl Gristnogol flynyddol sy’n dathlu genedigaeth Iesu Grist. Ers ei darddiad Mae pobl yn cyfnewid anrhegion, yn canu carolau, bwyta cinio Nadolig traddodiadol ac yn gobeithio y bydd Siôn Corn yn galw heibio iddynt!! A wyddech chi mai’r gân Nadoligaidd enwog, Jingle Bells, oedd y gân gyntaf i gael ei chwarae yn y gofod?