Y DHG 2023

Ffurflen ar-lein yw’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (y DHG [SASS]), un y mae gofyn i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei chwblhau yn ôl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiad gwasanaeth.   

Y mae’n ofyniad cyfreithiol ar i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae i gwblhau DHG. 

Trwy gwblhau’r DHG byddwch yn rhoi gwybodaeth hollbwysig i AGC ei defnyddio i gynllunio eu harchwiliadau. Bydd hefyd yn eu helpu i gynghori Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwr y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru. 

Bydd y DHG yn mynd yn fyw ar Ionawr 31 2023. 

Nid yw AGC yn cynhyrchu copi papur o’r ffurflen DHG, felly bydd angen i chi fod â chyfrif Ar-lein gydag AGC i gwblhau’r DHG pan fydd yn fyw.