Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Dydd Sul y 1af i  Ddydd Mawrth y 31ain o Ionawr 2023 – mis Cerdded y Ci 

Ar Ionawr 1af nodir dechrau Mis Cerdded y Ci. Nod y mis yw eich cael chi a’ch cyfaill pedair-coes i fynd allan i’r awyr agored. Mae cerdded y ci yn llesol, nid yn unig iddyn nhw, y mae hefyd yn  ymarfer ardderchog a thyner sy’n hwb i’ch lles corfforol a meddyliol chi. Peidiwch ag anghofio gwisgo lliwiau llachar neu adlewyrchol yn ystod y dyddiau tywyll gaeafol yma! 


Dydd Sul Ionawr 15fed 2023  – Diwrnod Crefydd y Byd 

Y Sul hwn byddwn yn dathlu Diwrnod Crefydd y Byd, digwyddiad blynyddol a gynhelir bob mis Ionawr â’r nod o hyrwyddo dealltwriaeth a heddwch rhwng yr holl grefyddau. Y mae hefyd yn anelu at feithrin dealltwriaeth a goddefgarwch rhyngddynt a’i gilydd, a heddwch rhwng pobloedd o wahanol gefndiroedd. Ewch i’r wefan BBC Teach’s guides am fwy o wybodaeth.   


Dydd Gwener, Ionawr 6ed – Dydd Llun, Chwefror 10fed  2023 – Gwylio-Adar i’n holl Ysgolion  

Anogir ysgolion ar draws y DU i ymuno â’i gilydd i Wylio Adar mewn un digwyddiad mawr, sef arolwg syml a radar y gall disgyblion fod yn rhan o honno a’i fwynhau gyda’i gilydd. Mae’r canlyniadau, a gesglir dros gyfnod o awr, hefyd yn cyfrannu at ddigwyddiad mawr Gwylio Adar yn yr Ardd, sef arolwg bywyd gwyllt mwyaf y byd. I fod yn rhan o hyn, cofrestrwch ar  wefan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)  

i gael mynediad at eu hadnoddau.  Mae hwn hefyd yn gyfle da i ddysgu mwy am y rhywogaethau o adar y doir o hyd iddynt yn eich ardal leol, ac efallai gymryd rhân mewn gweithgaredd megis gwneud peli braster i’r adar eu mwynhau dros fisoedd y gaeaf.