Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!  


Cronfa Gymunedol Hafren Dyfrdwy  

Lansiwyd y Gronfa Gymunedol yn 2021 i gefnogi prosiectau newydd gan elusennau lleol a grwpiau cymunedol yn ardal Hafren Dyfrdwy. 

Gall ymgeiswyr wneud cais am £2,000-£10,000 ar gyfer prosiectau sy’n unigryw, rhai y mae gwir angen cymunedol amdanynt, ac a fydd yn amlwg yn cael effaith wirioneddol ar lesiant cymuned. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.   


Cronfa Sir Gaerfyrddin 

Gall grwpiau cymunedol lleol, elusennau a phrosiectau wneud cais am grantiau o rhwng £500 a £2,000.  

Pwy all wneud cais? 

Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid-er-elw sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau er lles eu cymuned leol (e.e. clybiau ôl-ysgol, grwpiau ffermwyr ifanc, clybiau cinio, caffis cof, gwasanaethau cyfeillio a.y.b.).

Dyddiad cau Ionawr 30ain 2023. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.  


Cronfa Cymunedau Arfordirol Llywodraeth Cymru  

Mae’r uchod yn ceisio cefnogi datblygiad economaidd cymunedau arfordirol drwy hyrwyddo tyfiant economaidd a chreu swyddi, fel bod pobl yn gallu ymateb yn well i anghenion a chyfleoedd economaidd newidiol yn yr ardal.   

Am fwy o wybodaeth ebostiwch  

ccfwales@tnlcommunityfund.org.uk 

Cliciwch yma am wiriad cymhwysedd