Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Cenedlaethol Winnie the Pooh – Ionawr 18, 2022   

Mae Diwrnod Cenedlaethol Winnie the Pooh Day yn wyliau sy’n dathlu’r arth sydd wedi gwirioni ar fêl ac sydd wedi bod yn difyrru plant er 1926. Bob blwyddyn fe ddathlir y gwyliau yma gan lyfrgellau a dilynwyr  yr arth ffuglennol, anthropomorffaidd, arth graffig a grëwyd gan yr awdur Saesneg, A.A.Milne.   

Diwrnod Mynd Allan am Dro – Ionawr 20, 2022   

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, mae hwn yn ddiwrnod i gamu allan am dro unigol neu gyda rhywun arall. Daw cerdded â llu o fuddion o ran iechyd yn ei sgil, ac mae cerdded yn yr awyr agored bob tro’n fwy o hwyl na’i wneud ar felin gerdded. Mae cerdded yn yr awyr agored hefyd yn rhoi cyfle i’ch corff amsugno Fitamin D, sydd yn dda i’ch esgyrn a thyfiant eich cyhyrau. Am y canlyniadau gorau, ewch am dro peth cynta’r bore, gan mai dim ond haul cynta’r bore sy’n cynhyrchu Fitamin D, ac nid yw 75% o oedolion yn cael digon ohono. Cewch wybod mwy yma  

Diwrnod Rhyngwladol Derbyn – Ionawr 20, 2022  

Nodir Diwrnod Rhyngwladol Derbyn bob blwyddyn ar Ionawr 2020; dyma’r diwrnod i lenwi’n calonnau â grymoedd dyrchafedig derbyn.  Y mae’n bwysig ein bod yn derbyn pethau arbennig mewn bywyd. Mae’r syniad hwn yn ddi-os yn wir yn achos derbyn anabledd person. Dyma’r diwrnod pan ddaw pobl o bedwar ban byd at ei gilydd i gefnogi a chofleidio’r heriau sy’n dod ynghyd â bod ag anabledd. Crëwyd Diwrnod Rhyngwladol Derbyn yn ffordd o  gydnabod derbyniad cymdeithas o anabledd. Cewch wybod mwy  yma