Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Dweud Stori Dydd Sadwrn Ion 28ain – Dydd Sul Chwe 5ed

Amser maith yn ôl, roedd dweud stori’n ffordd o dreulio amser. Yn awr, mae’n ffordd wych o ddifyrru a dysgu o syniadau ein gilydd.

Dathlir Wythnos Dweud Stori Genedlaethol gan bobl o bob oed, fel erfyn grymus sy’n rhoi cyfle i ni rannu storïau sy’n ysbrydoli ac yn dysgu eraill.

__________________________

Mis Cyfeillgarwch Rhyngwladol – Chwefror 2022

Eleni rydym yn dathlu ysbryd cyfeillgarwch a chwmnïaeth.

Beth fyddem ni heb ein ffrindiau? Allwch chi ddychmygu bywyd heb ysgwydd i grïo arni wrth i chi ddechrau ymdopi â thor-perthynas gwael?

neu

gydymaith i fynd am yr holl fwyd sothach gyda chi wrth ichi wylio’r ffilmiau mwyaf arswydus dan flanced. Ffrindiau yw’r teulu a ddewiswn, ac mae’n bryd edmygu ac anrhydeddu’r berthynas hon a danbrisir, â dathliad mis o hyd, gan fod rhai ohonom wedi profi cyfeillgarwch ers i ni fod yn blant – FFRINDIAU GORAU PLENTYNDOD!!!

_________________________

Mis Hanes LHDT+ Mis Hanes- Chwefror 1, 2022 – Chwefror 28, 2022

Mae Mis Hanes LHDT 2022 yn ddathliad blynyddol, mis o hyd, ar hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, er mwyn hyrwyddo

–           cyfartaledd

–           amrywedd

–           lles y gymuned

–           y syniad y gall pawb sy’n perthyn i’r gymuned gyfrannu i’r gymdeithas

–           arwain bywyd llawn a bod o fudd iddyn nhw eu hunain ac i eraill

Bydd hefyd yn addysgu’r boblogaeth ehangach, ledled y byd, am faterion sy’n effeithio ar y gymuned LHDT+.