Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

Mae lleoliadau gofal plant sy’n gweithio gyda Chynnig Gofal Plant Cymru yn gwybod bod y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd bellach wedi mynd yn  fyw ac yn agored i rieni a lleoliadau lunio  Cytundebau Cynnig Gofal Plant ar gyfer y tymor hwn. Diolch am gofrestru gyda’r gwasanaeth newydd er mwyn helpu i sicrhau bod rhieni yng Nghymru yn dal i allu cyrchu gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig. Heb eich cefnogaeth chi ni fyddai hyn wedi bod yn bosib!

Cofiwch:

  • Rhaid i bob rhiant sy’n dymuno derbyn gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig o fis Ionawr 2023 wneud cais trwy’r gwasanaeth newydd
  • Dim ond trwy’r gwasanaeth newydd y gellir gwneud ceisiadau am ofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig o Ionawr 2023

Bydd systemau etifeddiaeth Cynnig Gofal Plant lleol yn dirwyn i ben dros y misoedd nesaf, gan olygu mai’r gwasanaeth digidol cenedlaethol fydd yr unig system Cynnig Gofal Plant y bydd angen i leoliadau gydweithio â hi o dymor yr hydref 2023 ymlaen.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd hwn yma: Cymorth i ddarparwyr gyda Chynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Peidiwch ag anghofio, os na lwyddoch chi i fynychu’r sesiynau hyfforddi ar-lein ar ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, gallwch eu chwarae yn ôl yma.

Cysylltwch â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru am unrhyw wybodaeth bellach.