Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!  


Nisa’n Gwneud Gwahaniaeth yn Lleol 

Mae’r elusen sy’n helpu siopau Nisa i godi arian y gellir  yna ei roi i elusennau lleol ac achosion da. Gwneir hyn drwy werthu cynhyrchion dewisol yn y siop, yn cynnwys yr holl eitemau brand y Co-op a’r rhai hynny o rai label Nisa ei hun, sef Heritage. 

Bob tro y prynir eitem sy’n rhan o’r cynllun, ychwnegir cyfran o’r pris i gronfa MADL y siop, ac yna rhodir y cynnwys i achosion da yn ardal leol y siop honno. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach. 


 Cronfa Chwarae Cymunedol y DU  

Mae Cronfa Chwarae Cymunedol y DU’n hollbwysig o ran llesiant a datblygiad sgiliau plant, a gallwn oll chwarae rôl yn meithrin cymunedau mwy chwareus. Wedi ei gefnogi gan Sefydliad LEGO, mae’r Sialens £145,000 hon wedi ei dynodi ar gyfer eich helpu i greu profiadau mwy chwareus i blant yn eich cymunedau, eich ysgolion neu’ch cymunedau ar draws y DU. 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach. 


 Cynllun Grantiau Cymunedol Ceredigion 

Mae grantiau ar gael i Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymunedol neu Gymdeithasau Chwaraeon a Chwarae y gellir ymddiried ynddynt, ac sydd am wella a chynyddu’r dewis o gyfleusterau a chyfleoedd yng Ngheredigion.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.