Cefnogi fy Hawliau i yn fy Nghlwb Allysgol i

Cyfres o adnoddau ynghyd â thempledi a chanllawiau i’ch helpu i gefnogi hawliau plant, cadw plant wrth galon yr hyn yr ydych yn ei wneud  yn eich clwb a bodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

“Mae gan bawb sy’n gofalu am blant a phobl ifanc, ac sy’n gweithio gyda nhw, rôl i’w chwarae wrth gydnabod hawliau plant a’u helpu i gyrraedd eu potensial fel unigolion”  Y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (SGC) (llyw.cymru) Mai 2023 

Bydd yr adnoddau’n eich helpu i fodloni’r prif feysydd yn  thema ‘Llesiant’ y Fframwaith Archwilio,    childcare-play-and-open-access-inspection-and-ratings-provider-guidance-en.pdf (careinspectorate.wales) ac yn sicrhau bod  plant: 

  • yn cael eu hannog i siarad, mynegi eu hunain a chyfrannu syniadau  
  • yn mynegi eu safbwyntiau ac yn gwybod y bydd eu syniadau’n cael gwrandawiad  
  • â rhan ym mhroses benderfynu eich clwb (Safon 7, y SGC),  
  • yn deall eu hawliau mewn ffyrdd ymaferol  
  • yn rhoi eu hawliau ar waith drwy gyfrannu at bolisïau eich lleoliad ac yn defnyddio eu llais i lunio pob agwedd ar eich lleoliad 
  • yn cael eu hannog i deimlo’n ddiogel,  yn hapus, a bod gwerth iddynt.

Gweithgareddau ar gyfer Ymgynghori â Phlant a Phobl Ifanc yn eich Clwb Allysgol

Yn dilyn dull calendr Comisiynydd Plant Cymru o hyrwyddo Hawliau Plant, gallwch gynllunio trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at un hawl bob mis.

Mynnwch Fynediad Llawn

Mae’r cynnwys hwn ar gael i aelodau’n unig.

Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gael mynediad at gannoedd o’n hadnoddau. Mae aelodaeth yn gwarantu eich mynediad at gynnwys o safon gennym, sydd cael ei lunio’n ddyddiol i'ch helpu I gefnogi’ch clwb.