Cyllid i Glybiau Conwy

Magic Little Grants 2023   

Lansiwyd Magic Little Grants 2023 ar 1 Mawrth 2023  

Wedi dosbrannu’n llwyddiannus gwerth £500 o grantiau i 2,650 sefydliad elusennol yn 2022, gyda chyffro mawr y mae Magic Little Grants yn cyhoeddi y bydd 2023 yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen – fyddwch chi ddim am fethu hyn! 

Bydd modd cyflwyno ceisiadau o Fawrth 1af hyd at Hydref 31ain 2023. 

A phroses gais syml, 20-munud, a chanlyniad o fewn chwe wythnos, mae cronfa Magic Little Grants yn cwtogi’r gwaith sy’n ofynnol ar sefydliadau llawr-gwlad i gael gafael ar yr ariannu y mae ei hangen arnynt i lansio neu gryfhau eu gwasanaethau. Mae’r meini prawf canlynol yn gymwys: 

  • Rhaid i sefydliadau naill ai fod yn eu blwyddyn gyntaf weithredol, neu fod ag incwm blynyddol o lai na £250,000. 
  • Gellir defnyddio’r ariannu i lansio prosiectau newydd, cefnogi’r rhai presennol neu dalu’r costau craidd sy’n gysylltiedig â pharhad y gwaith.  
  • Rhaid i’r sefydliadau, a’r prosiectau y maent yn gwneud cais ar eu cyfer, fod wedi eu lleoli yn Lloegr, yr Alban neu Gymru.