Dyfarniad Lefel 3 Mewn Pontio i Waith Chwarae (Cyfrwng Cymraeg)

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn cynnal cwrs Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith Chwarae (o’r blynyddoedd cynnar) drwy gyfrwng y Gymraeg!

Bydd arbenigwyr o Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn darparu’r cwrs ac yn arwain dysgwyr trwy gyfrwng deunyddiau’r cwrs ac yn rhoi adborth a chefnogaeth bersonol. Bydd gan ddysgwyr fynediad at ystod o adnoddau dysgu, sesiynau ar-lein, ac aseiniadau i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad y cwrs yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad Gwaith Chwarae. Bydd hefyd yn rhoi cymhwyster lefel 3 cydnabyddedig i ddysgwyr a all wella cynnydd a datblygiad gyrfa.

Mae rhai o’r pynciau allweddol sy’n cael eu trafod yn y cwrs yn cynnwys Egwyddorion ac Ymarfer Gwaith Chwarae, datblygiad plant a phwysigrwydd chwarae, cynllunio a chyflwyno cyfleoedd chwarae, iechyd a diogelwch mewn gwaith chwarae, a’r fframwaith cyfreithiol ynghylch Gwaith Chwarae.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cyfle newydd cyffrous hwn gydag unrhyw un y credwch y byddai’n elwa o astudio’r cymhwyster hwn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un 16+ sydd eisiau dechrau gyrfa mewn Gwaith Chwarae; ymarferwyr profiadol sy’n ceisio gwella eu sgiliau; a rhai sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae nifer o lefydd gyfyngedig ar gael. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein dros Zoom ar gyfer sesiynau 2 awr ar nos Fercher rhwng 15fed o Fawrth 2023 rhwng 18:30 a 20:30.

Dyddiadau’r cwrs:

  • 15fed Mawrth 2023
  • 22ain Mawrth 2023
  • 29ain Mawrth 2023
  • 5ed Ebrill 2023
  • 12fed Ebrill 2023
  • 26ain Ebrill 2023
  • 3ydd Mai 2023
  • 10fed Mai 2023
  • 17eg Mai 2023

I gofrestru ar gyfer y cwrs, llenwch y ffurflen mynegiant o ddiddordeb ynghlwm yma , neu cysylltwch â Phoebe Wilson ar 029 2074 1000 neu phoebew@clybiauplantcymru.org