Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth  (13-19 Mawrth)

Gan fod gan 15% o’n poblogaeth gyflyrau niwroamrywiol, mae’n bwysig gwerthfawrogi’r manteision o gael gweithle niwroamrywiol.

Yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2023, bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau (Saesneg yn unig) wedi’u hanelu at addysgu ac ysbrydoli sgyrsiau am niwroamrywiaeth.

Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cliciwch yma i archebu


Sul y Mamau Mawrth 19eg 2023

Mae hi’n Sul y Mamau (Diwrnod y Mamau) Ddydd Sul nesaf. Ychydig sy’n gwybod bod y diwrnod hwn yn cael ei ddathlu ar y 4ydd Sul y Grawys, ac mai tarddiad crefyddol, yn hytrach na ‘mamol’ sydd iddo. Roedd yn ddiwrnod i bawb fynychu eu heglwys agosaf (y Fam Eglwys), ond gydag amser daeth pobl i ddefnyddio’r diwrnod rhydd hwn i’w dreulio gyda’u teuluoedd, yn cynnwys eu mamau. Heddiw mae Sul y Mamau’n ddiwrnod i ddathlu ein mamau a’n mam-guod/neiniau a dathlu’r oll y maen nhw wedi’i wneud drosom ni.


Diwrnod y Trwyn Coch, Dydd Gwener Mawrth 17 2023

Mae hi’n Ddiwrnod y Trwyn Coch y Dydd Gwener yma. Y mae’n ddiwrnod inni ddod at ein gilydd a chodi arian yn gymysg â chomedi; caiff ei drefnu gan Comic Relief. Mae’r arian a godir yn mynd i helpu sawl prosiect, o gefnogi banciau bwyd lleol ar hyd a lled y DU i gefnogi chwaraeon menywod yn Rwanda.   Ewch i’w gwefan i gael syniadau ar sut y gallwch fod yn rhan o hyn Ddydd Gwener, a helpu i godi arian.