Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Dyfarniad Biffa

Gwahoddir ceisiadau i greu prosiectau newydd ar y thema Difyrrwch – gall y rhain gynwys cyfarpar chwarae newydd, gweithiau tirlunio, campfeydd awyr-agored a llwybrau natur a.y.b.. Rhaid dangos tystiolaeth o ddefnydd cymunedol ehangach.

Rhaid bod yr ymgeiswyr yn byw o fewn 10 milltir o safle tirlenwi trwyddedig.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.


Garfield Weston Foundation

Nod y sefydliad hwn yw cefnogi mudiadau, o grwpiau cymunedol i sefydliadau cenedlaethol, sydd â datrysiadau effeithiol i helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf,  .

Mae amrywiaeth o raglenni grant ar gael.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.


Cronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg a’r Cylch

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £750 ar ran unigolion hyglwyf y maent yn eu cefnogi, neu i’w sefydliad eu hunain.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma