Canlyniadau ein Harolwg Clybiau Cenedlaethol 2022

I sicrhau y gallwn barhau i leisio’r heriau sy’n wynebu’r sector Gofal Plant Allysgol i‘n cydweithwyr ar bolisïau a’r bobl sy’n penderfynu, ac er mwyn i ni ddeall ein hanghenion o ran cefnogaeth, gofynnwyd yn ein Harolwg Clybiau Cenedlaethol ar i glybiau ar draws Cymru ymateb i arolwg cenedlaethol.  Gwelir ein canfyddiadau ac argymhellion allweddol yn y gwybodlun isod. 

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

“Mae clybiau’n rhagweld amrediad o  heriau parhaus dros y 12 mis nesaf yn dilyn effaith Covid, a bellach godiadau mewn costau byw. Mae arnynt angen cefnogaeth barhaus i oresgyn yr heriau hyn er mwyn parhau i ddarparu gofal plant o ansawdd a chyfleoedd chwarae cyfoethogol i  blant oed ysgol. Mae’r sector yng Nghymru’n cyflogi dros 5,000 o bobl leol, gan alluogi rhieni/gofalwyr dros 40,000 o  blant i weithio neu hyfforddi, sy’n arbennig o bwysig i deuluoedd ar incymau isel a theuluoedd rhieni unigol, gweithwyr allweddol ac eraill na allant weithio o gartref.   

Nid yw’r angen am ofal-plant o ansawdd a phrofiadau chwarae cyfoethogol yn dod i ben pan fydd plentyn yn  mynychu’r ysgol yn llawn amser. Bydd galluogi rhieni ddychwelyd i’w gwaith yn ei dro’n cefnogi tyfiant economaidd ac yn cadw teuluoed rhag tlodi mewn adego gynni economaidd.”  

-Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs