Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os bydd arnoch angen ein help!


Little Lives UK

Mae Rhaglen Cefnogaeth Gymunedol Little Lives UK yn dyfarnu grantiau o hyd at £2,200 i elusennau, gwasanaethau, ysgolion, prosiectau a chynghorau i gynnal gweithdai a fydd o fantais uniongyrchol i fywydau plant. Gallai’r gweithgareddau gynnwys grwpiau chwarae neu ddosbarthiadau chwaraeon, ond croesewir ceisiadau gan brosiectau eraill hefyd cyhyd â bod eu prif amcan yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i blant.

Bydd y terfynau amser i geisiadau ar y diwrnod olaf o bob mis.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Grantiau Cymunedol Warburtons

Mae Grantiau Cymunedol Warburtons yn rhoi grantiau bychain o hyd at £400 i sefydliadau elusennol tuag at weithgreddau ehangach sy’n gwella Iechyd, Lleoedd neu Sgiliau teuluoedd yn eu cymunedau.

Yn Cau Mai 8fed 2023.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


UK Youth – cronfa costau byw

Rhaglen grantiau dair-blynedd anghyfyngedig yw hon, â’r nod o liniaru effaith ddinistriol tu hwnt gostau byw ar y sector ieuenctid. Gwybodaeth bellach i’w gweld yma.