Grant Lleoedd a Gynorthwyir i Glybiau Gofal Plant Allysgol

Trwy gefnogaeth gan The Moondance Foundation, mae cyfle wedi codi i gynnig grantiau Lleoedd Gofal Plant a Ariennir i Glybiau Gofal Plant Allysgol.  

Mae cyllid bellach ar gael ar gyfer 04/09/2023 hyd at 22/12/2023 i roi mynediad i blant na fyddent fel arfer yn gallu mynychu darpariaeth ac a fyddai’n elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol, gan felly gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol. 

Dylai Clybiau Gofal Plant Allysgol sydd wedi’u cofrestru gydg AGC, sy’n aelodau o Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ac â diddordeb mewn cynnig lleoedd wedi’u hariannu, gysylltu â’u Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant rhanbarthol.