Hyfforddiant L2APP: Ebrill 29ain – Mehefin 3ydd

Mae’r cwrs yma ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal plant ym –

  • Mro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Casnewydd
  • Sir Fynwy

Cynnwys y cwrs fydd –

  • Dau sesiwn wyneb-yn-wyneb ar Ebrill 29ain a Mehefin 3ydd – 10.00-16.00 ym Mro Morgannwg.
  • Sesiynau ar-lein – Mai 3ydd, Mai 10fed, Mai 17eg a Mai 24ain. 18.30-19.30.

Mae hwn yn gwrs cyflwyno ardderchog i Waith Chwarae, a’i gymysgedd o wybodaeth ymarferol a damcaniaethol.

Nid oes gofynion cymhwysedd i ymuno cyhyd â’ch bod dros 16 blwydd oed.

Y dyfarniad  hwn yw’r cymhwyster lefel mynediad ar gyfer symud ymlaen at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru mewn Gwaith Chwarae: Egwyddorion yn troi’n Arferion.

Bwciwch yma