Dirprwy Weinidog yn ymuno yn yr hwyl yng Nghlwb Gofal Plant Allysgol Dexter’s

Mae cydbwyso gwaith a magu teulu yn her sylweddol i lawer o rieni. Dyna pam mae’r Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, yn annog rhieni ledled Cymru i fanteisio ar glybiau Gofal Plant Allysgol, sy’n cynnig amgylchedd diogel a hwyliog i blant ffynnu ynddo tra bod eu rhieni’n dilyn eu gyrfaoedd. “Peidiwch ag aros tan ei bod hi’n rhy hwyr – dechreuwch ddefnyddio’r adnoddau gwerthfawr yma i roi’r dechrau gorau posib i’ch plant mewn bywyd.”

Ar y Ebrill 6ed 2023, bydd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldebau yn cynnwys gofal plant, chwarae a hawliau plant, yn ymweld â chlwb Gwyliau Dexter’s i weld beth mae gofal gwyliau mewn gwirionedd yn ei olygu i blant.

Mae Clwb Gofal Plant Allysgol ym Mhen-y-bont yn wirioneddol roi’r cyfle hwnnw i blant chwarae a chael hwyl gydag ystod o lefydd a phrofiadau chwarae awyr-agored i’w gael.

Caiff y clwb ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn erbyn safonau a gydnabyddir yn genedlaethol i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu. Yn eu harolygiad diweddar gan AGC cawsant 3 sgôr ‘rhagorol’ am Lesiant, yr Amgylchedd ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth; , nododd yr Arolygydd o AGC:

“Mae’r lleoliad hwn yn canolbwyntio ar y plentyn gyda phwyslais cryf ar blant yn cyfarwyddo eu chwarae a’u dysgu eu hunain.”

Gallwch weld copi o’r adroddiad arolygu yma

 

Y perchennog Angharad Sully Williams sy’n esbonio:

“Mae’r plant yn rhydd i redeg, i fynd yn fwydlyd ac i gymryd risgiau yn eu chwarae, pob un wedi’u goruchwylio gan staff sydd wedi cymhwyso’n benodol mewn Gwaith Chwarae a’u hyfforddi mewn diogelu a chymorth cyntaf”.

Dyfyniadau rhiant/plant

“Mae fy merched wedi bod yn mynychu ers rhai blynyddoedd ac yn wir, gwllwn i ddim bod yn hapusach â’r gofal. Maen nhw’n gwneud amrywiaeth enfawr o weithgareddau a bob tro’n dod adref yn llawn straeon ar ôl cael diwrnod ffantastig. Dwi’n llwyr argymell Dexters am glwb gwyliau – diolch Sunny a’r tîm!”

“Amser cyntaf Luca heddiw! Roedd e wedi cyffroi gymaint i fynd a gwnaeth Dexter’s ddim siomi, fe wnaethon nhw roi  profiad anhygoel iddo! Dyw e ddim wedi stopio siarad am ei ddiwrnod! Stwff anhygoel… diolch yn fawr i bawb”

Gyda nifer o bobl wedi symud i weithio gartref ers Pandemig Covid, mae Clybiau Gofal Plant Allysgol yn cael trafferth gyda niferoedd is yn mynychu,  ac felly hefyd gynaliadwyedd, wrth i rieni geisio jyglo gofal plant a bywyd gwaith yn y cartref.  I lawer o weithwyr allweddol fel staff ysbyty, gweithwyr gofal ac eraill sy’n gweithio oddi cartref dyw hyn ddim yn opsiwn o gwbl.  Ac wrth i nifer o glybiau barhau i weld niferoedd yn gostwng, mae hyn wir yn alwad i rieni ddefnyddio neu golli eu cyfleusterau gofal plant cymunedol lle gall eu plant chwarae’n rhydd gyda ffrindiau a chael hwyl ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau .

Mae modd i glybiau hysbysebu am ddim ar wefan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, gan alluogi rhieni i ddod o hyd i glwb yn eu cymuned leol, diolch i borth newydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs’ yw cyfundrefn fantell a llais Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru gyda gweledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Mae dros 1500 o glybiau ledled Cymru yn cynnig gofal plant o ansawdd, sy’n gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn bodloni anghenion llesiant plant a’u hawl i chwarae yn ogystal â galluogi rhieni i weithio, cynyddu eu horiau neu ymgymryd â hyfforddiant.  Ac i’r rhai sy’n gallu gweithio gartref, mae’n caniatáu iddyn nhw weithio’n ddi-dor wrth wybod bod eu plant yn cael llawer o hwyl a chyfleoedd i chwarae gyda phlant eraill – sef hanfod plentyndod!