Cymreigio eich cyfrifon cymdeithasol

20 Ebrill 2023 | 2 yh – 3 yh
Cyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg

27 Ebrill 2023 | 2 yh – 3 yh
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Dysgu sut mae creu cynnwys bachog ac effeithiol yn ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfle gwych i gadw mewn cyswllt gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth a chyrraedd cefnogwyr a defnyddwyr newydd. Gall baratoi cynnwys Cymraeg eich helpu i gyrraedd dilynwyr newydd ac i fod yn fwy amlwg. Byddwn yn ceisio ateb cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml gan elusennau am y ffordd orau o ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol trwy edrych ar enghreifftiau go iawn.

Byddwn yn ystyried gwahanol opsiynau sy’n addas ar gyfer sefydliadau sydd heb lawer o staff sy’n siarad Cymraeg a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio’n ddwyieithog. Byddwn hefyd yn trafod pa gymorth sydd ar gael i sefydliadau pan fo adnoddau’n brin.

Bwciwch yma