Y cyfan sydd angen i chi wybod am Ofal Plant Di-dreth gan Hempsall – gweminar ar y sylfeini i holl ddarparwyr gweithgareddau a gofal plant 6.30yh – 8.00yh Mai 3 2023

Bydd y weminar ZOOM 90-munud yma’n ddefnyddiol i bob lleoliad gofal plant a darparwyr clybiau gweithgaredd yn y DU. Dylech fynd iddi os ydych yn darparu gofal plant, yr hyn sydd gan y blynyddoedd cynnar hawl iddo, gofal neu weithgreddau cyn ac ar ôl oriau ysgol a / neu weithgareddau adeg gwyliau sy’n cael eu defnyddio gan rieni a gofalwyr i’w helpu i weithio.

Os ydych yn wasanaeth gofal plant neu weithgareddau a gymeradwyir ar gyfer plant, bydd modd i chi gefnogi rhieni drwy gofrestru, a allai helpu i hybu’ch busnes.

Mae’r weminar hon yn parhau ein gwaith o godi ymwybyddiaeth o Ofal Plant Di-dreth (GPD) ac rydym yn awyddus i gynyddu’ch dealltwriaeth o’r cynllun. Rydym wedi datblygu’r cynnwys mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan ddarparwyr yn ein gweminar gyntaf yn Chwefror 2023. Nod y weminar hon yw rhoi trosolwg o’r holl wybodaeth y mae ar ddarparwyr gofal plant angen ei gwybod i’w cefnogi i allu cofrestru a chynnig Gofal Plant Di-dreth i rieni a gofalwyr.

Mae CThEM wedi gofyn i Hempsall’s gyflenwi’r weminar gan eu bod yn sefydliad sy’n arbenigo yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, sy’n gynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant a gwaith ymchwil i lywodraethau, cynghorau a darparwyr.

Bydd Hempsall’s yn:

  • Darparu canllaw cam-wrth-gam i Ofal Plant Di-dreth.
  • Ystyried y cyfleoedd i bob math o ddarparwyr – gan gysylltu â’r hinsawdd economaidd bresennol a’r farchnad ofal plant i gynyddu’r niferoedd
  • Ystyried Gofal Plant Di-dreth o safbwynt darparwr.
  • Rhoi sylw i’r pethau y gallwn oll eu gwneud i sicrhau bod teuluoedd a darparwyr gofal plant yn defnyddio ac yn elwa o’r gefnogaeth hon gan y llywodraeth.
  • Eich cyfeirio at becynnau cymorth ac asedion y gellid eu defnyddio i hyrwyddo Gofal Plant Di-dreth i bawb.

 

Amlinelliad o’r Weminar

6.30yh             Croeso, Materion Cadw-tŷ a chyflwyniad. (Hempsall’s)

6.40yh             GPD – Beth yw hyn? (CThEM)

6.45yh             Sut mae GPD yn gweithio gyda chynigion eraill gan y llywodraeth. (CThEM)

6.50yh             GPD – cyfle i bob maeth o ddarparwyr (Hempsall’s)

7.00yh             Pwy all gofrestru i gael GPD? (Hempsall’s)

7.15yh             GPD – y broses. Beth sydd angen i ddarparwyr ei wybod? (Hempsall’s)

7.25yh             GPD ar waith – Safbwynt darparwr..

7.40yh             GPD – negeseuon y gall darparwyr eu rhannu â rhieni a gofalwyr.

7.50yh             Offer ac asedion i ddarparwyr ar hyrwyddo Gofal Plant Di-dreth i gwsmeriaid (Hempsall’s)

7.55yh             Crynodeb a gwerthuso

8.00yh             Cau

Bwciwch yn awr i gadw’ch lle: Yma