Wythnos Ymwybyddiaeth o’r Haul – Mai 1af-7fed

Yr allwedd yw i godi ymwybyddiaeth am ddiogelu rhag yr haul a chanser y croen.  

Mae arbrawf a gynhaliwyd yn 2006 yn dangos bod angen ail-roi eli haul ar y corff bob dwy awr i atal golau uwch-fioled rhag treiddio drwy ein croen. 

5 ffaith bwysig a chwedlau am fod yn agored i’r haul 

  1. Dim ond yn yr haf y mae niwed haul yn digwydd. Achosir niwed haul gan belydrau uwch-fioled, nid gwres, felly gall y croen gael ei effeithio hyd yn oed ar ddyddiadau gwyntog a chymylog.
  2. Nid oes angen eli haul ar bobl sydd â chroen tywyllach. Mae bod yn agored i belydrau uwchfioled yn creu niwed parhaol i’r corff, waeth beth fo math a lliw’r croen. 
  1. Ni allwch losgi trwy wydr. Mae gwydr di-arlliw yn lleihau effaith golau haul ond nid yn ei atal yn llwyr; gellir dal i gael ei effeithio wedi bod yn agored am gyfnod hir i wydr o’r fath.  

 

  1. Po fwya’r haul a gewch = po leia’r diffyg fitamin D. Dywed gwaith ymchwil mai po ucha’r lefelau o uwchfioled, y lleiaf o haul sydd ei angen ar bobl i gynyddu fitamin D yn y corff; mae ychydig funudau yn yr haul yn ddigon fel arfer. 

 

  1. Gall lliw haul ffug gymryd lle eli Efallai fod gan drwythau lliw-haul S.P.F. ond ni ellir dibynnu arnynt i fod yn amddiffynfa barhaus; mae dermatolegwyr yn argymell rhoi eli haul islaw’r trwythau ac ail-roi bob dwy awr i ddiogelu’n well.