Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddyliol 15-21 Mai

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddyliol yn amser delfrydol i ni oll feddwl am iechyd meddyliol, mynd i’r afael â stigma a gweld sut y gallwn ni greu cymdeithas sy’n rhwystro problemau iechyd meddyliol rhag datblygu ac yn gwarchod ein lles meddyliol.

Mae gorbryder yn emosiwn naturiol ond gall weithiau fynd y tu hwnt i reolaeth.

5 awgrym ardderchog i ymdrin â Gorbryder:

  1. Cadwch ddyddiadur o’r hyn yr ydych yn ei wneud a sut rydych yn teimlo. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall a rheoli’r hyn sy’n achosi eich gorbryder.
  2. Os yw gorbryder yn cymryd drosodd eich diwrnod ceisiwch neilltuo amser o’r diwrnod i ymdrin â’ch pryder – i eistedd a mynd drwy eich pryderon. Gwnewch hyn ar amser penodol bob dydd i’ch helpu i ganolbwyntio.
  3. Ewch am dipyn o awyr iach, ymarfer corff, myfyrdod, ymarferion anadlu, dal i fyny â ffrind / perthynas, neu gwnewch rywbeth sy’n gymorth i symud eich ffocws.
  4. Rhowch gynnig ar ddulliau hunan-help – megis Therapi Ymddygiad Gwybyddol (TYG). Dulliau TYG hunan-help ar-lein – Every Mind Matters – y GIG (www.nhs.uk)
  5. Gwasanaethau Llinellau Cymorth a gwrando – Mind