Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru Welsh Water

Ers lansio’r gronfa mae  Dŵr Cymru’n falch o fod wedi rhoi dros  £500,000 yn gefnogaeth i gynlluniau cymunedol lleol.

Bydd y gronfa Gymunedol yn agor ar Fai 1af  2023.

Mwy o wybodaeth yma


Bwrsariaeth CYMell

Mae cymwysterau gwaith chwarae yn gwella gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau chwarae’r plant yn eich gofal.

Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau o’u staff sy’n mynychu cyrsiau cymhwyso mewn Gwaith Chwarae a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg, drwy ariannu prosiect CYMell.

Telir y fwrsariaeth i’r lleoliad y mae ei staff yn mynychu hyfforddiant y tu allan i’w horiau gwaith neu i dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw hynny o fewn oriau gwaith.

I gael gwybod mwy am y cymwysterau sydd ar gael, cwblhewch  Ddatganiad o Ddiddordeb, yna daw aelod o’r Clybiau Plant Cymru Kids’ Club i gysylltiad â chi.


Cronfa BAME yn dal ar agor i geisiadau yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Cronfa Cefnogi Adferiad Covid-19 ar gyfer grwpiau cymunedol BAME yng Nghymru yn dal ar agor i geisiadau gan sefydliadau BAME sy’n gweithio yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Galwn ar yr holl grwpiau sy’n gweithio gyda chymunedau BAME yn yr ardaloedd hyn i wirio meini prawf y gronfa yma a chyflwyno cais os ydynt yn gymwys.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y gronfa hon wedi ei ymestyn i ganol dydd, Mai 31ain 2023.