Grant i newid yr iaith weithredu i’r Gymraeg

A ydych yn Glwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel un sy’n darparu gofal yn ddwyieithog? A ydych am newid eich iaith cyflenwi i’r Gymraeg? 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun grant i gefnogi lleoliadau i newid eu hiaith weithredol i’r Gymraeg. 

Gall y grant dalu costau megis gweinyddu newid manylion cofrestru ag AGC, cyfieithu polisïau, arwyddion a marchnata ynghyd â chefnogi cynaliadwyedd wrth i chi farchnata eich darpariaeth cyfrwng-Cymraeg. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud o fod yn ddarpariaeth ddwyieithog i fod yn un  Gymraeg, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol: 

Cysylltwch â Ni